Amdanom ni
AM FFAB
Rydym yn fideograffwyr sydd yn angerddol am wneud ffilmiau ac wedi ennill gwobrau am ein gwaith. Ein nôd ydi gwneud eich diwrnod mor braf ac hamddenol ag sydd yn bosib. Rydym wedi ein lleoli yng Ngwynedd, Gogledd Cymru ond yn teithio o amgylch y DU a Gogledd Iwerddon ac yn gallu cyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg. Rydym yn bartneriaid mewn bywyd ac yn ein busnes. Pan ddown i gofnodi eich diwrnod, rydym yn anelu i fod mor ddirgel â phosibl wrth ddal eich eiliadau cofiadwy ar ffilm. Ni allwn aros i gwrdd â chyplau hyfryd ac rydym yn edrych ymlaen i fod yn rhan o'ch diwrnod arbennig!
RYDYM YN CREDU
Rydyn ni eisiau gwneud i chi chwerthin, ac fe ddaw atgofion gwych pan fyddwch chi wedi ymlacio fel y gallwn ddal gwir emosiynau eich diwrnod.
Dim byd cawslyd, dim byd ffug.
Dim ond chi.
Owain a Caoimhe xx